Council Minutes

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANGWM 28.07.2026

PRESENNOL –, Gwynfryn Jones, Alun Jones, Sioned Jones Cadeirydd, Gwyn Davies, Cyng Gwennol Ellis, Llyr Jones. Rhian Ellis (Clerc) Awel Hughes, Glennydd Evans
1.YMDDIHEURIADAU – Carwyn Edwards,
2. DATGAN BUDDIANNAU – DIM
3. COFNODION CYFARFOD DIWETHAF – Cynigwyd yn gywir gan
Awel ac eilwyd gan Gwyn
4. MATERION YN CODI O’R COFNODION –
Coeden yn y fynwent - Y goeden wedi ei thorri a wedi ei chlirio a hefyd y goeden wrth y Neuadd Fach wedi ei thorri. Diolchodd y Cadeirydd I bawb fu yn helpu I wneud y gwaith.
5. CYLLIDEB - Yn y Banc - 29.06.2026 £14,239.24 yn cynnwys arian y Melinau Gwynt
Awdit Mewnol – Angen ei gymeradwyo – Glennydd yn cynnig a Alun yn eilio a phawb yn gytun.
6. TALIADAU – Cytunwyd I dalu yr isod gyda phawb yn gytun.
Zurich s137 £680.80
Sioned Jones Blodau s137 £55.61
Iona Edwards Awdit s111 £60.00
7. NEUADD FACH - Y Clerc wedi cysylltu gyda CADW ond angen enw ar yr adeilad gan fod gwahanol enwau gan gwahanol drigolion, penderfynwyd ei chofrestru fel Y NEUADD FACH. Carwyn wedi siarad gyda Scottish Power a mae’r bil rwan yn £1 y mis.
8. CYNLLUNIO – DIM
9. GOHEBIAETH - DIM
10. UNRHYW FATER ARALL –
Llechi to yr Hen Eglwys yn disgyn, y clerc I siarad efo’r perchnogion.
Tarmac yn codi wrth y bont – Alun wedi siarad gyda Kevin o’r Sir a’r gwaith wedi ei gwblhau.
Coeden yn berchen gan Ystrad Fawr angen ei thorri, Y Clerc I gael gair gyda Aled.
Angen peintio y fens newydd wrth yr afon, holi am brisiau Creosote Brown neu baent Brown.
Dyddiad Pwyllgor nesa 22.09.2026

Dydiad Pwyllgor nesa. NOS FAWRTH 22ain Medi 2026