Cyngor Cymuned Llangwm

      Croeso i wefan Cyngor Bro Llangwm. Yma cewch wybodaeth am y Cynghorwyr, sut i gysylltu gyda’r Cyngor a copïau o’r cofnodion. 

Mae’r Cyngor yn cynrychioli trigolion yng nghymunedau Llangwm, Ty Nant, Dinmael a rhannau o Maerdy sydd i gyd wedi eu lleoli ger yr A5.
 
Mae 6 aelod ar y Cyngor ac mae’r cyfarfodydd fel arfer ar nos Fercher am 7.30yh yn Neuadd Llangwm. 

Cyngor Bwrdeistref Conwy sy’n gyfrifol am gasgliadau gwastraff, gwasanaethau cymdeithasol a materion priffyrdd ayyb. Cartrefi Conwy sy’n gyfrifol am wasanaethau tai. 

Gallwch gysylltu gyda’r awrdurdodau fel a ganlyn: 

Cyngor Bwrdeistref Conwy, Bodlondeb, Ffordd Bangor, Conwy LL32 8DU Ffon: 01490576300
 
Cartrefi Conwy, Morfa Gele, Cae Eithin, Abergele LL22 8LJ


CYNGOR CYMUNED LLANGWM

CYNHELIR CYFARFOD BLYNYDDOL Y CYNGOR
NOS FERCHER MAI 22ain 2025
AM 7 O’R GLOCH

YN Y NEUADD DIWILLIANT

CROESO CYNNES I BAWB


Arolwg Cymunedol 2023 - Canlyniadau

NODIADAU CYFARFOD CYHOEDDUS LLANGWM